Theatr Iau
8-11 oed
Mae yna ddyfodol disglair yn aros amdanoch
•••

Dysgu wrth Actio a Perfformio
“Rwy’n edrych ymlaen i’r perfformiad nesaf”
Theatr Iau. Mae Plant y Cwm yn darparu rhychwant o wahanol gyfleon i blant a phobl ifanc ac mae’r mae’r Theatr yn cynnig cyfleon gwich i adeiladu cymeriad a mwynhau mewn awyrgylch creadigol sy’n ddiogel dan arweiniad ein arweinwyr profiadol.
Dewch, ymunwch a’r theatr. Ffoniwch y swyddfa 01269 871600
“Mae’r theatr wedi gwneud gwahaniaeth mawr i hyder y plant”
Mae’r Theatr Iau yn gyfle i blant 8-11 oed ddysgu sgiliau actio, canu, dawnsio a pherfformio. Mae’r Theatr Iau yn cael ei gynnal ar Nos Fercher yn Neuadd Pontyberem rhwng 4.30 a 6, yn wythnosol yn ystod tymor yr ysgol. Mae’r Theatr Iau yn cynnal dwy berfformiad yn ystod y flwyddyn. Mae’r Theatr hwn yn agored i bawb.
- Ffi y Theatr: £30 bob hanner tymor.
- Amser: 4.30-6.00yh
- Ble: Neuadd Pontyberem