
Partneriaid
Fforwm Plant
Partneriaid a Noddwyr.
Mae Fforwm Plant y Cwm yn fforwm i bartneriaid Sir Gâr sydd yn gweithio o fewn y maes plant. Mae’r Fforwm yn cynnwys gwahanol fudiadau megis y Frigad Dan, Yr Heddlu, Mudiad Meithrin, Menter Cwm Gwendraeth Elli ayyb. Mae’r Fforwm yn cwrdd yn dymhorol i rhannu arfer dda ac adnoddau. Hefyd, bwriad y Fforwm yw i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ac yn osgoi dyblygu.
Mae’n parneriaid a’n noddwyr yn gonglfaen i weithgareddau Plant y Cwm an yn rhan mawr o lwyddiant y Clybiau, Y Theatr a Sgiliau Byw
Mudiad Meithrin
Cynnal Mabolgampau Meithrin 3 gwaith o fewn mis Mai ym Mharc y Scarlets ar y cyd gyda Mudiad Meithrin er mwyn hyrwyddo iechyd a lles i holl blant ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli sy’n mynychu Cylch Meithrin. Hefyd mae Cylch Meithrin Ysgol Pum Heol yn cael ei gynnal gan Plant y Cwm, ond yn cael ei gefnogi gan Fudiad Meithrin. Mae’r Cylch yn rhedeg o ddydd Llun – Iau rhwng 1.15 a 3 yn neuadd yr Ysgol leol
Actif
Mae Avtif yn cynnal gweithgareddau yn ein digwyddiadau, e.e. Miri Mai / Clybiau Gwyliau
Iechyd Cyhoeddus Cymru, ICC
Mae swyddogion Plant Y Cwm yn gweithio ar brosiect sy’n cael ei ariannu gan ICC sef Cynllun Cyn Ysgolion Iach. Prosiect yw hwn sy’n canolbwyntio ar saith maes penodol e.e. Diogewlch, Amgylchedd, Chwarae Corfforol ac ati. Bwriad y proseict hwn yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y profiad gorau posibl o fod mewn Cylch Meithrin, Meithrinfa Preifat neu Canolfan Deulu a chymryd rhan mewn gweithgareddau iaechyd a lles.
Partneriaieth Plant, Cyngor Sir Gâr
Ariannu rhan o Glybiau Gwyliau Plant y Cwm
Mentrau Sir Gâr
(yn lle Menter Bro Dinefwr)
Cwis Dim Clem yn brosiect lle mae’r dair Fenter wedi bod yn gweithio ar y cyd.
Cynllun Gwen
Rhan o ddigwyddiadau fel Miri Mai / Hydref Heini
Gwasanaeth Tân
Mynychu digwyddiadau fel Miri Mai, Clybiau Gwyliau, siaraad gyda grwpiau Mam a Babi
Heddlu
Mynychu sesiynau Mam a Babi
Gwasanaeth Gofal Ffyrdd, Cyngor Sir Gâr
Cynnal stondinau mewn gwahanol weithgareddau a siarad am ddiogelwch seddau car mewn sesiynau Mam a Babi
Plant Mewn Angen
Ariannu prosiectau gyda bobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Providing support for parents.