Clybiau Gwyliau
Clybiau sydd yn darparu gofal dydd yn ystod y gwyliau
•••
Ble mae’r clwb agosaf i chi?
Cliciawch ar y Clwb i ddarganfod mwy
Cliciwch i ddarganfod mwy
- Ardal Cydweli: Ysgol Gwenllian
- Ardal Llanelli: Ysgol Iau Llangennech
- Ardal Y Cwm: Ysgol Y Tymbl
Clybiau Gwyliau
Mae Plant y Cwm yn darparu gofal dydd mewn tair lleoliad o fewn ein hardal, Cydweli (Ysgol Gwenllian), y Cwm (Ysgol Y Tymbl) a Llanelli (Ysgol Iau Llangennech). Mae’r gwasanaeth yma yn wasnaeth pwysig, sy’n helpu rhieni sy’n gweithio llawn amser. Mae’r gofal yn dechrau am 8.30 ac yn gorffen am 5.30 ac yn rhedeg yn ystod y gwyliau Pasg a’r Haf. Mae’r gwasanaethau yma wedi eu cofrestri dan Arolygaeth Gofal Cymru.
Mae’r plant yn cael y cyfleoedd gorau posib wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau amrywiol. Eto, mae staff wedi cael ei hyfforddi i gynnal clybiau o’r safon uchaf. Mae’r staff yn darparu gweithgareddau celf a chrefft, chwaraeon, canu, dawnsio, cogino ayyb.
Hefyd, yr ydym yn prynnu gwasanaeth mewn i’r clybiau hyn i gynnig gweithgareddau newydd i’r plant e.e. dawnsio gwerin. Mae’r clybiau yn agored unrhyw blentyn rhwng 3 a 11 oed. Am fanylion epllach…